It' fy Nuw a'm Brenhin nefol,
Rhoddaf fi drag'wyddol glôd;
A'm llais a'm tafod
ac â'm hyspryd
Tra f'o'm bywyd yma'n bod:
Hyfryd flas dy iachawdwriaeth,
A'm gwna mor helaeth ac mor hŷ,
I ro'i ma's dy glôd, ar gyhoedd
Ne's d'od i'r ardaloedd fry.
Mae ehediad holl funudau,
Hyd fy nyddiau i gyd yn awr,
Yn galw arnaf i glodfori
Ac i foli f'Arglwydd mawr:
Dadgan mawredd ac anrhydedd
Werthfawr rinwedd nefol ras;
Nid oes tafod na myfyrdod
Ddichon osod hwn i ma's.
Derfydd i mi garu ac ofni,
Dim o'r nefoedd fawr i'r byd,
Pan y caffw'r olwg cyntaf
Decced yw dy wyneb-pryd;
Gwedd dy wyneb sy'n dwyn bywyd
Gwedd dy wyned sy'n dwyn hedd,
Gwedd dy wyneb ydyw'r cwbl
Yma, a thu draw i'r bedd.
William Williams 1717-91
[Mesur: 8787D] gwelir: Dyn dyeithr ydwyf yma |
To thee my God and my heavenly King,
I give eternal acclaim;
With my voice and my tongue
and with my spirit
While ever my life is here:
The delightful taste of thy salvation,
Shall make me so generous and so bold,
To set forth thy acclaim, publicly
Until coming to the regions above.
The flight of all the minutes,
Along all my days now, are
Calling upon me to extol
And to praise my great Lord:
To declare the majesty and honour
Of the precious virtue of heavenly grace;
There is no tongue or meditation
Able to set this forth.
Loving and fearing finish for me,
Nothing from great heaven to the world,
When I get the first sight
So fair is thy countenance;
The aspect of thy face brings life,
The aspect of thy face brings peace,
The aspect of thy face is the whole
Here, and beyond the grave.
tr. 2021 Richard B Gillion
|
|